R M “Bobi” Jones (1929-2017), Y Tair Rhamant – Iarlles y Ffynnon, Peredur a Geraint, RHAGYMADRODD, Aberystwyth: Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, 1960.
Amcan y blog ‘ma yw cadw’r rhagymadrodd gwerthfawr hwn yn fyw (er iddo wedi’i gytogi, i raddau helaeth, fan hyn).
Y Testyn Hwn
“Testun Llyr Coch Hergest a gyflwynir yma, gydag ambell gywiriad amlwg drwy help llawysgrifau eraill. Dewiswyd y Llyfr Coch am mai dyna’r testun hynaf sy’n cynnwys y tair rhamant hyn yn gyfan; ac mae’n destun da.”
Ymherodraeth Arthur
“Yn y llyfr hwn fe geir llenyddiaeth y dylai pobl Cymru eu trwytho eu hun ynddi ac ymfalchïo ynddi yn anad dim arall o bopeth yn hanes ein llên. Dywed Mr Saunders Lewis (1893–1985) am y tair rhamant hyn: ‘Yn y drindod hon y ceir efallai gamp uchaf ein rhyddiaith yn yr Oesoedd Canol’; a chan mai rhyddiaith yr Oesoedd Canol yw uchafbwynt ein rhyddiaith oll, gwelir mor bwysig yw’r chwedlau bychain hyn i’r Cymro diwylliedig. Dyma lenyddiaith gydwladol sydd yn sefyll ochr yn ochr â champweithiau mawr yr oesoedd mewn unrhyw wlad. Gŵyr Ewrob oll am y rhamantau hyn.
Er mwyn eu canfod yn eu lle priodol yn hanes llên rhaid i ni eu dodi yn fras ac yn fuan yn erbyn cefndir y chwedlau Arthuraidd neu’r Matière de Bretagne a ddaeth i’r amlwg o’r ddeuddegfed ganrif ymlaen.
O’r tri chylch o storïau a ysgubodd drwy Ewrob yn yr oesoedd hyn, Matière de France (Siarlymaen, Rolant), Matière de Rome (chwedlau clasurol), a’r Matière de Bretagne (Arthur), nid oes dim dau mai’r olaf a gafodd y dylanwad mwyaf.” Mae R M Jones yn dyfynnu tri ysgolhaig, sef Ernest Renan (1823–1892), Gaston Paris (1839–1903) a Jean Marx (1884–1972).
Mae R M Jones yn cyfeirio hefyd at waith Sieffre o Fynwy a Chrétien de Troyes ac eraill lawer, dros y canrifoedd, ac at y paentwyr a adwaenir fel ‘Pre-Raphaelites’, ac, ym myd miwsig, Richard Wagner. “Mewn llawer modd bu’r rhamantau hyn yn eang eu gafael ac yn ddwfn eu hargraff mewn llawer gwlad.”
Trosglwyddor Rhamantau
“Anodd dweud dim am awdur y tair stori Gymraeg a gyhwysir yn y gyfrol hon: ni wyddom na’i enw na’i amser na’i fro. Pe gofynnid i mi yn dawel i roi cynnig ar ddyfaliad, fe ddywedwn i mai Erging yw crud y rhamantau hyn (a llawer o’r lleill), ardal gwbl Gymraeg hyd yn dra diweddar, ac yn Erging-Trefynwy, ac iddynt gael eu llunio tua 1100, er bod y llawysgrif gyntaf a’u cynnwys i’w chael flynyddoedd wedyn a’r iaith wedi ei diweddaru ychydig.
Er lleied o gyfeiriadau daeryddol sydd ynddynt, daeryddiaeth yr ardal honno sydd yn y storïau, er enghraifft Fforest Ddena, Caerdyff, Caerllion, Caerloyw, afon Wysg, Cernyw, afon Hafren. Megis Arberth i Bwyll a Manawydan felly Caerllion yw’r llys i’r rhain. Pan ddaeth y Llydawyr i Drefynwy, gwirioni a wnaethant uwchben yr ‘hanes’ a gawsant i’w cenedl hwy eu hun gan gyfawrwyddiaid yr ardal, ‘hanes’ am arwyr yr oeddynt hwythau’n cadw brithgofion am eu henwau o leiaf, gan iddynt fod yn rhan o’u gorffennol Prydeinig. Eu brwdfrydedd hwy, ynghyd a’u gallu i drosglwyddo’r storïau o’r Gymraeg i’r Ffrangeg a barodd i’r llifdorau ymagor. Yn fuan ar ôl eu llunio fe’u hadroddwyd wrth Lydawyr Trefynwy, ac oddi yna fe aethant fel tân gwyllt drwy gestyll Normanaidd Morgannwg a throsodd i Ffrainc ac i lawer gwlad. Ymddengys mai dyna eu hynt debygol.
Mae [yn y storïau hyn] olion etifeddiaeth o chwedlona hir Cymreig wedi ei haddasu ar gyfer cymdeithas gyfoes ac yn dyrchafu oes arwrol yn ôl angen a ffasiwn gwreiddiol yr amseroedd, ac wedi ei llunio’n gyfansoddiadau cain gan ben-campwr llên. Nid enwau’r arwyr hyn oedd ar yr arwyr gwreiddiol, bid siŵr: nid oes dim amheuaeth fod y rheini’n dduwiau o ryw fath – duwiau ffrwythlondeb, gan amlaf, yma. Tyfodd y storïau o futh i ramant, muthau a dadogwyd ar bersonau hanesyddol. Ond nid yn y drefn hon nac yn yr union ddull hwn y ganed y digwyddiadau sy’n sgerbwd i’r chwedlau hyn: cymerwyd y defnydd crai mutholegol ac fe’i trowyd a’i gerfio’n greadigaeth newydd. Eto, o sylweddoli fod y rhamantau hyn wedi eu gwreiddio mewn muth, fe gyfoethogir ein darllen hefyd, down i adnabod ‘rhin’ neu wefr enwau priod, digwyddiadau, rhifau, lliwiau, ffurfiau ac yn y blaen, dônt yn fwy ystyrlon oherwydd eu pell gysylltiadau ‘crefyddol’, cyn-Gristnogol fel arfer, ac yn llawnach eu diddordeb.”
Camp y Rhamantau
“Y mae un gwahaniaeth sylfaenol rhwng Culhwch ac Olwen, Breuddwyd Macsen a’r rhamantau ar y naill law a Phedair Cainc y Mabinogi ar y llaw arall, a hynny yw, er bod y pedair cainc yn fanwl realistig o ran data daaryddol, mutholegol yw tarddiad pawb. Ond ymgais yw’r rhamantau a Culhwch megis Breuddwyd Rhonabwy a chwedlau eraill (a cherddi’r Gogynfeirdd) i greu delfryd yr hen Ogledd arwrol ‘hanesyddol’ mewn Cymru gyfoes.
Y prif ddefnyddiau yw:
- Cymeriadau hanesyddol o’r 5ed i’r 6ed ganrif gan mwyaf (rhin eu henwau a’r ysfa am eu mawrygu a’u dyrchafu)
- Themâu mutholegol (storïau traddodiadol ynghlwm wrth gredoau am y tywydd a’r tymhorau, lleoedd fel ffynhonnau a’u dirgelwch, etc)
- Allanolion cymdeithasol cyfoes (dylanwadau Ffrengig, moesau, dillad ac yn y blaen).
Ac wrth geisio cyfuno’r tair elfen hyn fe lwyddodd yr awdur i greu epig genedlaethol, a hynny oherwydd ei fod yn fwy ymwybodol o’i thema nag o’i fympwyon neu o’i deimladau ei hun. Nid hunan-ddatguddio a arfaethai namyn gwasanaethu ei gynulleidfa, rhoddi iddynt eu breuddwyd-orffennol. Ecsotig oedd y chwedlau Arthuraidd i’r cyfandir, a’u harwyr yn bellennig a’u hawyrgylch yn arallfydol; eithr i’r Cymry yr oeddynt yn fynegiant o falchder gwladgarol.
Ceir ymgais ymwybodol i ddelfrydu, a gwelir yn amlwg yr yn math o berffeithrwydd eithafol ag y ddisgrifiai’r y Gogynfeirdd a Beirdd yr Uchelwyr yn eu hawdlau a’u cywyddau moliant:
A diau oedd gan Owain na welsai erioed neb rwy fwyd ni welai yno ddigon ohono, eithr bod yn well cyweirdeb y bwyd a welai yno nag yn lle arall erioed. Ac ni welodd erioed le cyn amled anrheg odidog o fwyd a llyn ac yno. Ac nid oedd un llestr yn gwasanaethau arno namyn llestr arian ac aur…. [Iarlles, tud 15]
A’r wledd y buwyd dair blynedd yn ei darparu yn un tri mis y’i treuliwyd. Ac ni bu esmwythach iddynt wledd erioed nag well na honno. [Iarlles, tud 25]
Cyffredin yn y rhamantau yw cyfeiriadau ‘delfrydol’ fel hyn at wledda megis at ddillad, at ferched y llys, at ddewrder y marchogion, ac yn y blaen. Bid siŵr, y mae peth o’r delfrydu hwn o achos dymuniad yr awdur neu’r cyfarwydd i gyflwno rhyfeddodau annaturiol, y bywyd diarffordd nad yw o’r un gyff â’n bywydbob dydd cyffredin ni, y digwyddiadau aruthr hynny a oedd, yn ei dyb ef, yr unig bethau a wir gynhyrfai diddordeb ei gynulleidfa. Yn ogystal â’r ystyriaeth yna, sut bynnag, yr oedd hefyd y ffaith fod y storïau hyn yn tarddu yn y bôn mewn deunydd goruwchnaturiol, fod y bobl hyn sy’n arwyr iddynt wedi bod yn wreiddiol yn rhai yr oedd perfformio rhyfeddodau yn rhan o’u cynneddf ddwyfol ‘naturiol’. Hynny sy’n esgor ar yr odrwydd hwnnw mewn ambell episode o naws hudol a dirgel a dreiddia drwy wead y rhamantau hyn.
Yn Iarlles y Ffynnon y mae gŵr du ag un droed ac un llygad yng nghewyllyn ei ben, ac ym Mheredur hefyd y mae gŵr du mawr unllygeidiog. Yn awr, dull cyffredin llawer o bobloedd y byd yw cyfeirio at yr haul fel ‘llygad y nef’ (cf Shakespeare: ‘Sometimes too hot the eye of heaven shines’ [Sonnet 18]). A chyda’r Tewtoniaid fel gyda’r Groegiaid yr oedd duw’r haul – a oedd yn Sylfaen melt a storm hefyd – yn unllygeidiog. Yn Iwerddon yn ogystal ceid duw’r haul ag un llygad yng nghywellyn ei dalcen. Pan gofiwn am Sol (yng Ngulhwch) ‘a allai sefyll un dydd a rei un droed’, a Sol yn golygu ‘haul’ wrth gwrs, a phan gofiwn gysylltiadau stormus, tyrfus y gŵr du unllygeidiog yn Iarlles y Ffynnon ac ym Mheredu ymddengys yn weddol amlwg – heb nodi’r profion eraill sydd ar gael – fod y rhain wedi bod un eu gorffennol pell, mwy ‘llewyrchus’, yn dduwiau storm-haul.
Dyma enghraifft ymysg amryw o’r sut y gallwn ddilyn mân awgrymiadau eraill yma ac acw – at fodrwy, at sarff, at bedair ar hugain o wragedd, at lew, at ŵr melyn, at ddiffeithwch sydyn, ac at ugeiniau o elfennau eraill – yn ôl yn y pen draw i ffynhonnell futheolegol bendant.
Casglaf felly mai cyfuniad neu gydblethiad o’r tri chymhelliad hyn – delfrydu gorfennol arwrol, cyfleu rhyfeddodau ‘newyddiadurol’, a defnyddio gweddillion storïau mutholegol – sy’n cyfrif i raddau am y naws ryfedd a deimlwn yn aml wrth ddarllen y chwedlau hyn. Cofier hefyd fod, ambell dro, un neu gyfuniad o ddau yn unig o’r cymhellion ar waith, megis yn llawer o’r disgrifiadau grotesg a geir yn britho’r tudalennau (e.e. y forwyn bengrech ddu sy’n dod mewn i’r llys ar gefn mul melyn [Peredur, tud 83-4]).
Y mae llawer arbenigrwydd arall yn perthyn i’r rhamantau heblaw’r disgrifiadau gorawenus hyn. Ynddynt y meithinrwyd yn gain ac yn llawnach ddwy thema, a oedd eisoes wedi brigo yn y Pedair Cainc ac yng Nghulwch ac Olwen ac oedd i fod yn themâu llywodraethol am gyfnod yn llenyddiaeth Ffrainc a gwledydd eraill – sef Serch Cwrtais a Marchogwraeth Grwydrad. Ym mhob un o’r rhamantau hyn fe welir cydblethiad o serch ac anturiaeth, y fenyw ambell dro yn ysgogydd i’r anturiaeth – a serch rhamantau yn dechrau ymffurfio’rn gwlt cymdeithasol wrth fod y fenyw’n dringo gan bwyll bach ar ben ei phedestal. Gŵyr pob Cymro am y parch traddodiadol at y fenyw a fynegwyd yn y Cyfreithiau Cymreig: drwy gyfrwng y rhamantau cafodd Ewrob benbaladr wybod am y syberwyd yma.
Dylid cyfeirio yma hefyd ar drefnusrwyd gorffenedig a ffurf resymegol y rhamantau, peth go eithriadol yn yr Oesoedd Canol. Gwir fod rhyddiaeth Gymraeg wedi datblygu ynghynt na rhyddiaeth llenyddiaethau modern eraill, ond y mae mwy o undod o lawer yn y tair rhamant hyn nag sydd yn y rhamantau rhyddiaeth estron diweddarach. Nid yn unig yr un arwr sy’n cadw’r llinyn rhediad yn esmwyth gyson, ond y mae adeiladwaith yr episodau yn dlws ac yn foddhaus i’r darllenydd. Pentyrru diymatal oedd dull yr ysgrifenwyr rhyddiaeth estron o lunio eu rhamantau. Datblyga pob un o’r rhamantau [Cymraeg] gyda chyflymder a gafael. Yn Geraint yn neilltuol, y mae’r ambell newid golygfa a symud pwyslais o’r nail gymeriad i’r llall yn feistrolgar ac yn ddieithr o gelfydd mewn storïau mor gynnar â’r rhain. A gall yr awdur fod hefyd yn wyrthiol o gryno – y mae pawb sydd wedi cymharu’n fanwl y fersiynau Frangeg a’r Gymraeg wedi sylwi cymaint mwy cynnil a chryno ac ymatalgar yw’r awdur Cymraeg – weithiau bron yn wyddonol neu’n ddiarhebol o gryno, e.e. pan ddaw Edern fab Nudd yn glwyfus ac yn lluddedig i lys Arthur. (Gweler Geraint, tud 116.)
Diau fod Iarlles y Ffynnon a Geraint yn fwy organaidd na Pheredur, a chynllun cyffelyb sydd ganddynt ill dwy. (Er bod patrwm Peredur ychydig yn wahanol ac yn fwy ar lun taith y pícaro, y mae’r chwedl hon hefyd yn datblygu’r yn glir ac yn ofalus.) I’r cynllun hwnnw y mae pedair cainc:
- Rhagymadrodd sy’n dechrau yn llys Arthur ac yn cyflwyno’r arwr ai arwain at briodas.
- Argyfwng sy’n gwahanu’r gŵr a’r wraig o ran perthynas onid o ran lle.
- Cyfres o anturiaethau sy’n cynyddu yn eu anhawster ac yn arwain o’r diwedd at gymod rhwng yr arwr a’i wraig.
- Gohirir diwedd y stori drwy gyflwyno hanes sy’n gyflawn ynddo’i hun er mwyn dangos dewrder yr arwr.
Ymddengys fod y briodas wedi bod yn rhyw fath o gwymp o safbwynt ‘buchedd marchog’ ac ymgais yw’r rhan hon, efallai, i ddangos fod anturiaethau’n bosibl iddo o hyd er gwaethaf cymodi â’i wraig!
Yn amgenach na’r cynllunio dillyn hwn ac uwchlaw pob dim arall, eu harddull ysblennydd yw’r hyn a esyd stamp athrylith ar y rhamantau hyn. Mae’r disgrifio ar gymeriad ac ar ddigwyddiad yn delynegol yn eu rhythm a’u hysgafnder. Fe ellid dyfynnu o unrhyw dudalen i amlygu adeiladwaith destlus a hapus y brawddegau a’u symud addas iawn i gyfleu naws urddasol y marchogion a phertrwydd y golygfeydd a welai’r storïwr.
Y mae traddodiad barddol yr awdur yn ddigon amlwg. Yn gyntaf, yn ei agwedd gyffredinol at y testun. Cymerer Peredur pan ddaw allan o guddygl y meudwy wedi bwrw’r nos yno:
Trannoeth y bore ef a gyfododd oddi yno, a phan ddaeth allan yr oedd gawod o eira wedi ry odi y nos gynt, a gwalch wyllt wedi lladd hwyad yn nhâl y cuddygl. Â chan dwrf y march cilio o’r walch a disgyn brân ar gig yr aderyn. Sef a orug Peredur, sefyll a chyffelybu dued y frân a gwynder yr eira a chochder y gwaed I wallt y wraig fwyaf a garai a oedd cyn dduedd a’r muchudd, a’i chnawd oedd cyn wynned â’r eira, a chochder ei gwaed yn yr eira i’r ddau fan gochion yn ei gruddiau. [Peredur, tud 59]
Gwelir ei hyfforddiant barddol hefyd yn asbri’r cyfuniadau rhethregol, amlder ansoddeirau a’r rheini’n fynych yn gyfansawdd yn ôl dull yr Araith, ym Mheredur a Geraint yn arbennig. Defnyddir y rhain bron yn ddieithriad pan ddymunir arafu ac urddasoli brawddeg neu fynegi brwdfrydedd afieithus.
Y mae’r amrywio rhwng yr arddull flodeuog heb orwneud a’r arddull gryno-gryno hon yn ôl y galw, a’r amrywio’r dialog ac adrodd digwyddiad a disgrifiad, yn adlwyrchu’r amrywiaeth hanfodol sydd yng nghrefft yr awdur, yr amrwyddiaeth sydd yn siâp ei frawddegau ac yn amser ei ferfau – amser gorffennol, nachaf + yn + berfenw, amherffaith, berfenw + orug, llyma + yn + berfenw, a ffurfiau eraill er mai adrodd hanes y gorffennol syml yn unig y mae ef. O ganlyniad mae’r storïau’n symud yn rhwydd ac yn orffenedig ac yn egnïol.
Gellid oedi i sylwi fel y mae’n creu’n fywiog ac yn gain amryw gymeriadau pendant – Gwalchmai, y bonheddwr goddefgar yn llawn cydymdeimlad, yn ostyngedig ac yn gallu trechu hyd yn oed yr ysfa i’w ddangos ei hun; Cai, powld a byrbwyll, yn anghwrtais ac yn ddideimlad; gwledigrwydd naïf a phlaen Peredur yn datblygu i fod yn farchog soffistigedig cyflawn; ac eraill o’r arwyr amlwg heblaw llawer o fân gymeriadau tra diddorol. Gall ddarlunio person ag ychydig o drawiadau llawen â’i frws. Teimlaf fod y manddarlun cyfareddol hwn yn enghraifft deg o’i ddull gwrthrychol, cyflym:
Ar hynny llyma bump morwyn yn dyfod o’r ystafell i’r neuadd; a’r forwyn bennaf ohonynt, diau oedd ganddo na welsai dremaint cyn deced âhi erioed ar arall, a henwisg o bali rhwyllog amdani, a fuasai dda gynt, oni welid ei chnawd trwyddo – a gwynnach oedd na blawd y crisiant. Ei gwallt hithau a’i dwyael, duach oeddynt na’r muchudd; dau fan gochion fychain yn ei gruddiau, cochach oeddynt na’r dim cochaf. Cyfarch gwell i Beredur a orug y forwyn a myned mwnwgl iddo ac eistedd ar ei naill law. [Peredur, tud 53]
Y mae cryn dipyn o grafter seicolegol gan yr awdur, fel y cofir ym Mheredur: ar ôl i’r marchog dieithr ddod i’r llys a sarhau Gwenhwyfar a phawb yn plygu eu pennau o gywilydd ac o ofn, dyma’r gwladwr trwsgl gan Beredur yn dyfod i mewn ar ei hen farch digrif, ac ymfalchïai marchogion y neuadd i gyd fod modd rhoi sylw i hwn bellach er mwyn i’r helynt arall fynd dros gof.
Ymhellach ymlaen y mae Peredur yn aros ychydig gyda’i ewythr er mwyn dysgu moesau da, ac y mae sylwadau hwnnw’n bur arwyddocaol fel y gwyddom oll, ysywaeth, erbyn hyn:
‘A chyda mi y byddi y wers hon yn dysgu moes ac arfer y gwledydd a’u mynudrwydd (h.y. cwrteisi), cyfartalrwydd ac addfwynder ac unbenrwydd. Ac ymadawa weithion iaith dy fam.’ [Peredur, tud 48]
Nid yw cynildeb bachog o’r math hwn wedi ei gyfyngu i Beredur: fe’i ceir yn aml ym mhob un o’r storïau. Er enghraifft, yn yr Iarlles, wedi i’r iarlles ddigio wrth Luned:
Ar hynny, myned a orug Luned ymaith; a chyfodi a orug yr iarlles hyd at ddrws yr ystafell yn ôl Luned a phesychu yn uchel, ac edrych a orug Luned tu dra’i chefn. [Iarlles, tud 18-9]
Meistr llên yw awdur y tair rhamant hyn, efallai meistr mwyaf llên Cymru, yn sicr saif yn uchel ymysg ein llenorion pennaf. Canys iddo ef, wrth gwrs, y mae’n rhaid diolch am un o ddau gyfraniad mawr Cymru i’r byd.”